The Inn Collection Group (ICG) has added a third site in Wales to its growing area of pubs with rooms with the acquisition of the historic St Kilda Hotel in Llandudno.
The Newcastle-based operator has bought the 60-room property as it continues to expand beyond its heart of northern England and takes its total number of sites to 33.
![]()
Situated on the central promenade of the popular seaside town and dating from 1854, The St Kilda offers stunning views of the coast between the headlands of Great Orme and Little Orme overlooking Llandudno Bay.
Family-owned for 21 years, the new acquisition joins Swallow Falls Hotel in Betws-y-Coed and The Bull in Beaumaris as group-owned properties in North Wales.
Joining the award-winning company, The Inn Collection Group’s latest purchase has been made with the valuable assistance of the Manchester office of Christie & Co, the leading specialist adviser on the purchase and sale of businesses in the hospitality sectors. hotels and pubs.
Sean Donkin, Managing Director of The Inn Collection Group, said:
“We are absolutely delighted to bring the St Kilda Hotel into our pubs with family rooms and to continue our expansion in Wales.
“What sets The Inn Collection Group apart are the exceptional locations of our commercial environments and their beautiful outdoor communities and The St Kilda is a perfect match.
“It is the right size to strengthen our presence in the region and we are delighted that it will join our existing coastal properties which delight clients in the North East, North Yorkshire and the Lake District.
“We are passionate about investing in unique sites like St Kilda and making them special places to eat, drink, sleep and explore and we look forward to it being part of our new chapter as part of the community fabric here in North Wales.”
The acquisition was made on a confidential basis through Tom O’Malley, Associate Director – Hotels at Christie & Co. Tom comments:
“I have been in contact with the owners of St Kilda for a few years but we never thought the market was right to sell. However, having now worked with The Inn Collection Group on several deals and understanding what they are looking for , I knew this would be the perfect fit for their growing field and approached them confidentially.
“I am delighted that the transaction has gone through successfully and I look forward to working with the group on future acquisitions.”
Edinburgh-based commercial law firm Burness Paull provided legal advice on the transaction, while Neil Hart of Bradley Hall, based in Newcastle-upon-Tyne, advised on pre-acquisition due diligence.
Neil Hart, Chief Executive of Bradley Hall Group, said:
“We have a long-standing relationship with The Inn Collection Group and being able to offer them continued support through their ever-expanding portfolio of hospitality venues is always a pleasure.
“We are delighted to be part of the long period of growth The Inn Collection Group is experiencing across Wales with the securing of a third site, and I very much look forward to continuing our partnership on future projects. “
St Kilda Hotel is The Inn Collection Group’s sixth purchase in 2022, as it continues to expand with strategic ‘buy and build’ growth plans.
Continuing to actively seek new acquisition opportunities to expand its portfolio in Wales and the North of England, The Inn Collection Group has a proven track record in the hospitality industry.
Previously named Pub’s Best Employer for two consecutive years at the National Publican Awards, it has a solid reputation for its commitment to its employees and career development opportunities, as well as its award-winning customer service and facilities. quality.
![English]()
Mae The Inn Collection Group (ICG) wedi ychwanegu trydydd safle yng Nghymru at ei ystad o dafarnau ag ystafelloedd, drwy brynu’r St Kilda Hotel, gwesty hanesyddol yn Llandudno.
Mae’r gweithredwr o Newcastle wedi prynu’r sefydliad 60 ystafell wrth iddo barhau i ehangu y tu hwnt i ogledd Lloegr. Daw hyn â chyfanswm ei leoliadau i 33.
![]()
Wedi’i leoli ar y promenâd canolog yn y dref glan môr boblogaidd ac yn dyddio’n ôl i 1854, mae gan y St Kilda olygfeydd arfordirol godidog dros Fae Llandudno, rhwng pentiroedd Pen y Gogarth a Thrwyn y Fuwch.
Teulu sydd wedi bod yn berchen ar y gwesty am y 21 mlynedd ddiwethaf, ac mae’r caffaeliad newydd yn ymuno â’r Swallow Falls Hotel ym Metws-y-coed a The Bull ym Miwmares fel eiddo sydd yn nwylo’r grŵp yng ngogledd Cymrou.
Llwyddodd cwmni llwyddiannus The Inn Collection Group i wneud ei bryniant diweddaraf diolch i gymorth gwerthfawr swyddfa Manceinion Christie & Co, y cynghorydd arbenigol mwyaf blaenllaw ar brynu a gwerthu busnesau yn y sector gwestai a’r sector tafarnau.
Dywedodd Sean Donkin, Rheolwr Gyfarwyddwr The Inn Collection Group,
“Rydyn ni wedi gwirioni o gael croesawu’r St Kilda Hotel i’n teulu o dafarnau ag ystafelloedd a pharhau i ehangu i mewn i Gymru.
“Yr hyn sy’n gwneud The Inn Collection Group yn arbennig ydi lleoliadau rhagorol ein hamgylcheddau masnachau a’r harddwch a welir yn yr awyr agored o’u cwmpas. Dyma’n union a geir gyda’r St Kilda.
“Mae o’r maint cywir i gyfoethogi ein presenoldeb yn yr ardal ac rydyn ni wrth ein bodd ei fod yn ymuno â’r eiddo arfordirol sydd gennym ar hyn o bryd sy’n swyno gwesteion yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, gogledd ac Swydd Efrog ac Ardal and Llynnoedd.
“Rydyn ni’n frwdfrydig iawn ynghylch buddsoddi mewn safleoedd unigryw fel y St Kilda a’u gwneud yn fannau arbennig i fwyta, yfed, cysgu a chrwydro ohonyn nhw, ac edrychwn ymlaen at ei gynnwys yn ein pennod newydd fel rhanedo’r gym yma yng ngogledd Cymru.”
Cwblhawyd y caffaeliad ar sail gyfrinachol drwy Tom O’Malley, Cyfarwyddwr Cyswllt – Gwestai, yn Christie & Co. Dyma ddywedodd Tom:
“Dwi wedi bod mewn cysylltiad â pherchnogion St Kilda ers rhai blynyddoedd, ond dydy’r farchnad heb fod yn iawn i werthu. Fodd bynnag, ar ôl gweithio gyda The Inn Collection Group ar sawl pryniant a deal beth maen nhw’n chwilio amdano, roeddwn i’n gwybod y byddai’n gweddu’n berffaith i’w hystad sy’n mynd o nerth i nerth, a chysylltais â nhw yn gyfrinachol.
“Dwi’n falch iawn fod y pryniant wedi cael ei gwblhau’n llwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â’r grŵp ar gaffaeliadau yn y dyfodol.”
Darparwyd cyngor cyfreithiol ary trafodiad gan gwmni cyfraith fasnachol Burness Paull, sydd wedi’i leoli yng Nghaeredin, a chafwyd cyngor ynghylch diwydrwydd cyn caffael gan Neil Hart o Bradley Hall yn Newcastle-upon-Tyne.
Dywedodd Neil Hart, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp and Bradley Hall:
“Mae ein cysylltiad – The Inn Collection Group yn ymestyn yn ôl ymhell, ac mae bob amser yn bleser gallu cynnig cymorth parhaus iddyn nhw gyda’u portffolio cynyddol o leoliadau lletygarwch.”
“Braf iawn ydi cael bod yn rhan o’r cyfnod o dwf y mae The Inn Collection Group yn mynd drwyddo yng ngogledd Cymru, drwy sicrhau trydydd safle, ac edrychaf ymlaen yn arw at barhau â’n partneriaeth wrth weithio ar brosiectau yn y dyfodol .”
Y St Kilda Hotel yw chweched pryniant The Inn Collection Group yn 2022, wrth iddo barhau i ehangu drwy gynlluniau twf ‘prynu ac adeiladau’ strategol.
Mae gan The Inn Collection Group enw da iawn yn y sector lletygarwch ac mae’n parhau i chwilio am gyfleoedd caffael newydd er mwyn ehangu ei bortffolio yng Nghymru a gogledd Lloegr.
Daeth y grŵp yn fuddugol yn y categori Cyflogwr Tafarnau Gorau ddwy flynedd yn olynol yng ngwobrau cenedlaethol y Publican Awards ac mae ganddo enw da iawn am ei ymrwymiad i bobl a chyfleoedd i ddatblygu gyrfa. Mae hefyd wedi ennill clod am ei wasanaeth i gwsmeriaid a safon ei ddarpariaethau.